| Coughtrey | Tudalennau Cymraeg | Hafan |
Santes Dwynwen
O leiaf tair stori sydd yn esbonio sut y daeth Dwynwen (o'r bumed ganrif, mae'n debyg) yn nawddsant cariadon. Yn un fersiwn (y mwya' cyffredin, efallai) mae Dwynwen yn syrthio mewn cariad â Maelon Dafodrill ond trefnwyd eisoes gan ei thad iddi briodi dyn arall. Mae Maelon yn mynd yn wallgof wrth glwyed am hyn ac yn ei threisio.
Wedi ffoi i goedwig yn hollol ddigalon, mae hi'n gweddïo ar Dduw i wneud iddi anghofio Maelon. Wedyn mae hi'n syrthio i gysgu ac ymwelir â hi gan angel sydd yn rhoi diod peraidd iddi. Nid yn unig gwneud iddi anghofio am Maelon y mae'r diod yn ei wneud ond ei droi yntau i floc iâ. Ond ar yr un pryd mae Dwynwen yn cael tri dymuniad oddi wrth yr angel. Felly, yn gyntaf mae hi'n dymuno i Maelon gael ei ddadmer. Yn ail, mae hi'n dymuno i Dduw wireddu gobeithion yr rhai sydd mewn cariad ac yn olaf mae hi'n dymuno na fydd hi byth yn priodi. Gwireddwyd ei thri dymuniad. Er mwyn diolch i Dduw
mae Dwynwen yn ymroi i Dduw, gan fyw fel lleian ar Ynys Llanddwyn, ymhle mae hi'n sefydlu eglwys.
| Grŵp Rhaglan | |